Peint
Mae pris peint yn rhatach yng Nghymru na sawl rhan arall o Brydain yn ôl arolwg newydd gyhoeddwyd heddiw.

£2.90 yw pris cyfartalog peint o gwrw yng Nghymru, o’i gymharu â £3.15 yn Llundain.

Gogledd Lloegr sy’n mwynhau’r cwrw rhataf – £2.87 yw pris peint yn y gogledd orllewin, y gogledd ddwyrain, a Swydd Efrog.

Ond mae pris peint yn amrywio rhwng £2.95 a £3.15 yng ngweddill y wlad, a £3.11 yn yr Alban.

Cynhaliwyd yr arolwg gan y Good Pub Guide, a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl. Mae’n rhestru tafarndai, landlordiaid a thafarndai bwyd gorau’r flwyddyn.

Wrth ymateb i’r arolwg dywedodd Paul Nuttall, dirprwy arweinydd plaid UKIP, y dylai Llywodraeth San Steffan ostwng y dreth ar alcohol.

“Fe fyddai peint yn rhatach pe na bai’r Llywodraeth yn codi treth 2% yn uwch na chyfradd chwyddiant bob blwyddyn,” meddai.

“Mae gwneud hynny’n dinistrio tafarndai Prydain ac yn niweidio twf economaidd.”