Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi’r dyn lleol a fu farw mewn damwain angheuol yn ardal Ffostrasol, Ceredigion, neithiwr (dydd Mercher, Ebrill 10).

Bu farw Llyr Evans, 31, o Lanarth mewn damwain a oedd yn cynnwys un cerbyd, sef Ford Ranger glas, ar ffordd yr A486 ger Clwb Pêl-droed Ffostrasol.

Roedd y cerbyd yn teithio o gyfeiriad Synod Inn, a dywed yr heddlu nad oedd neb arall yn rhan o’r digwyddiad.

Mewn datganiad, mae teulu Llyr Evans wedi talu teyrnged i’r “annwyl fab, brawd ac wncwl”.

“Diolch am yr holl negeseuon a chefnogaeth a gofynnwn yn garedig iawn i bawb barchu ein dymuniad i alaru mewn preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd yma,” meddai’r teulu.