Mae Heddlu Gwent yn chwilio am ddyn 19 oed mewn perthynas ag achos o drywanu y tu allan i archfarchnad Tesco ym Mhont-y-pŵl neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 6).

Maen nhw’n credu bod gan Daniel Drew wybodaeth am y digwyddiad, ar ôl iddyn nhw arestio dau ddyn, 20 a 48 oed.

Cafodd achos o ddifrodi car ei adrodd wrth yr heddlu am 9.30 neithiwr, ac fe ddigwyddodd trosedd hiliol yn yr ardal ychydig yn ddiweddarach.

Yn dilyn hynny, fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar ddyn 22 oed ger Tesco, ac fe gafodd e anafiadau i’w stumog.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty, lle mae e mewn cyflwr sefydlog.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.