Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad rhwng cefnogwyr pêl-droed Bangor a Chaernarfon ar ddydd Sadwrn Ionawr 26.

Byddai’r Heddlu’n hoffi darganfod pwy yw’r dyn yn y lluniau CCTV maen nhw wedi eu rhyddhau, fel rhan o archwiliad parhaus i’r digwyddiad ar Stryd Caergybi ym Mangor Uchaf.

Bu ymladd rhwng cefnogwyr y ddau dîm cyn y gêm ddarbi fawr yng Nghwpan Cymru yn Stadiwm Nantporth y noson honno, pan enillodd Caernarfon 2-1.

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio pobol i gadw draw o ardal Bangor Uchaf wrth iddyn nhw ymateb i’r digwyddiad toc cyn y gic gyntaf am 7.30 yr hwyr.