Gareth Bale - chwaraewr cymreig y flwyddyn
Mae Gareth Bale wedi’i enwi’n chwaraewr y flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru heno.
Mae Bale yn cael ei wobrwyo am ei berfformiadau trawiadol dros ei glwb Tottenham Hotspur, ac wrth gwrs Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn y cyfnod dan sylw mae Bale wedi sefydlu ei hun fel un o dalentau ifanc mwyaf cyffrous Ewrop, gan sgorio deg gôl i Spurs yn cynnwys hat-trick bythgofiadwy yn erbyn Inter Milan yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Heb os, mae’n rhan allweddol o gynlluniau Gary Speed gyda Chymru, ac roedd ei berfformiadau diweddar i Gymru’n erbyn Montenegro a Lloegr gyda’i orau dros ei wlad.
Cydnabod campau Abertawe
Yn y prif wobrau eraill, cafodd dau o chwaraewyr Abertawe eu gwobrwy – yr amddiffynnwr Ashley Williams yn chwaraewr clwb y flwyddyn, a’r chwaraewr canol cae Joe Allen yn chwaraewr ifanc y flwyddyn.
Mae Williams hefyd yn cipio’r teitl Chwaraewr Clwb am yr ail flwyddyn o’r bron.
Cafodd Jessica Fishlock o Academi Bryste ei henwi’n chwaraewr y flwyddyn y merched, tra bod cyn chwaraewr Man UTD, Mickey Thomas yn derbyn y wobr am wasanaeth i’r Gymdeithas.
Rhestr lawn enillwyr:
Chwaraewr y Flwyddyn (dynion) – Gareth Bale
Chwaraewr y Flwyddyn (merched) – Jessica Fishlock
Chwaraewr y Flwyddyn y cefnogwyr – Gareth Bale
Gwasanaeth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (dynion) – Mickey Thomas
Gwasanaeth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (merched) – Karen Jones MBE
Chwaraewr clwb (dynion) – Ashley Williams
Chwaraewr clwb (merched) – Amie Lea
Chwaraewr ifanc (dynion) – Joe Allen
Chwaraewr ifanc (merched) – Nia Jones
Chwaraewr Clwb (Uwch Gynghrair Cymru) – Gary Lloyd