Rory Best Llun: Wikipedia
Mae Iwerddon wedi galw ar Michael Sherry o Munster i hedfan  i Seland Newydd rhag ofn i’w prif fachwr Rory Best fethu a gwella o anaf i’w ysgwydd.

Fe fu’n rhaid i Best adael y cae yn gynnar yn erbyn yr Eidal wedi brifo’i ysgwydd ac mae’n annhebygol o chwarae rhan yn y gêm yn erbyn y Cymry, fore Sadwrn.

Mae’r Gwyddelod eisoes wedi colli’r bachwr Jerry Flannery ar ddechrau’r gystadleuaeth, wedi iddo anafu cyhyr croth ei goes. Fe gymerwyd ei le gan ei gyd chwaraewr ym Munster, Damien Varley.

Er ei fod yn annhebygol fydd Rory Best yn ymddangos yn erbyn Cymru, ni fydd Michael Sherry yn cael ei dderbyn i garfan y Gwyddelod nes ceir cadarnhad bod y  gŵr o Ulster yn methu chwarae rhan bellach yn y gystadleuaeth.

Gyda’i dau brif fachwr wedi eu hanafu, mae’n debygol taw Sean Cronin, Leinster, fydd yn llenwi’r bwlch yn y rheng flaen fore Sadwrn, wedi iddo ddod ymlaen fel eilydd i Best yn erbyn yr Eidalwyr.