Mae Gareth Anscombe, maswr tîm rygbi Cymru, yn galw ar yr awdurdodau i ddatrys “llanast” y gêm ranbarthol.
Mae’r tîm cenedlaethol yn dathlu cipio’r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 2012, ond fe ddaeth ar ddiwedd cyfnod pan fo cryn drafod am ddyfodol y gêm ddomestig yng Nghymru.
Roedd cysgod dros gytundebau nifer helaeth o’r chwaraewyr yn ystod y gystadleuaeth, a Gareth Anscombe, maswr y Gleision, yn eu plith.
Bydd ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn, ac mae adroddiadau’n ei gysylltu â Harlequins a Chaerfaddon, ac mae’n cyfaddef fod rhagor o chwaraewyr yn ystyried symud i Loegr.
Fe fyddai ei yrfa ryngwladol yn dod i ben pe bai’n symud allan o Gymru, gan ei fod ymhell o’r 60 cap sy’n orfodol i chwaraewyr sy’n gadael y wlad.
‘Haeddu’r cytundebau gorau posib’
“Ffenest o ddeng mlynedd yn unig sydd gyda ni i ofalu amdanon ni ein hunain ac am wn i, y peth pwysig yw nad ydych chi am ddifaru wrth edrych yn ôl,” meddai.
“Fe fu’n anodd o ran yr hyn sy’n digwydd ym myd rygbi Cymru.
“Dydy hi ddim yn ddelfrydol, a ddim yn rhywbeth rydych chi am orfod ymdrin ag e fel chwaraewr.
“Gobeithio y gallwn ni roi’r llanast y tu ôl i ni a chanolbwyntio ar [y Gamp Lawn], sef yr hyn y dylen ni fod yn cyffroi yn ei gylch e.
“Rydyn ni i gyd eisiau chwarae dros Gymru, does dim amheuaeth am hynny, ond mae angen trin y chwaraewyr yn dda, ac rydyn ni’n haeddu hynny.
“Rydyn ni’n gwneud lot fawr dros y tîm a’r wlad, felly dylen ni dderbyn gofal.
“Mae angen datrys hynny ac fel chwaraewyr, rydyn ni’n haeddu’r cytundebau gorau posib.”