Dylai plant yng Nghymru gael eli haul am ddim er mwyn eu harbed nhw rhag canser y croen, yn ôl elusen blaenllaw.
Heddiw, fe gyflwynodd Tenovus ddeiseb i Lywodraeth Cymru, ag arni 9,000 o enwau, yn cefnogi’r galw am roi eli haul i bob plentyn dan 11 oed, a’i ddosbarthu unai drwy ysgolion cynradd neu ar bresgripsiwn.
Maen nhw hefyd eisiau i ysgolion ddechrau dysgu plant am ddiogelwch yn yr haul, law yn llaw â phynciau traddodiadol fel mathemateg a gwyddoniaeth.
“Mae ein hymgyrch Here Comes the Sun yn ceisio sicrhau eli haul am ddim i ddiogelu plant yng Nghymru rhag canser y croen, ac hefyd i wella agweddau tuag at diogelwch haul,” meddai Cyfarwyddwr Cyswllt Tenovus, Dr Ian Lewis.
Yn ôl yr elusen, mae’n hollbwysig bod plant yn dysgu am beryglon yr haul mor gynnar a phosib mewn bywyd, ac yn cael eu diogelu rhagddyn nhw.
“Gall un llosg haul gwael mewn plentyndod fwy na dwblu’r tebygolrwydd o gael canser y croen yn hwyrach mewn bywyd,” meddai Dr Ian Lewis.
Mae ffigyrau diweddaraf yr elusen yn dweud bod dros 100 o bobol yng Nghymru yn marw o melanoma malaen bob blwyddyn, a bod yr achosion mewn dynion a menywod wedi mwy na dwblu dros y 15 mlynedd ddiwethaf.
“Mae’n rhaid i ni atal achosion o melanoma malaen rhag cynyddu yn y genhedlaeth nesaf,” meddai Dr Ian Lewis, sy’n dweud bod rhoi eli haul i blant am ddim yn gam pwysig yn y cyfeiriad cywir.
Wrth ymateb i’r galwadau gan Tenevous am eli haul am ddim i blant dan 11, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen cymryd agwedd mwy cynhwysfawr tuag at ddiogelu plant rhag effeithiau’r haul.
“Rydyn ni’n annog pobol i gymryd gofal i ddiogelu eu hunain rhag yr haul, sy’n gallu achosi canser y croen.
“Ond defnyddio eli haul yw un ffordd o blith nifer o gamau sydd angen eu pwysleisio er mwyn diogelu plant rhag effeithiau negyddol gormod o haul.”