Mae llefarydd Plaid Cymru ar ddarlledu, Bethan Jenkins AC, yn galw am eglurhad gan benaethiaid ITV am adroddiadau fod cynlluniau i newid y ffordd y mae newyddion ar-lein yn cael ei gynhyrchu gan y cwmni.
Mae adroddiadau fod ITV yn bwriadu diswyddo cynhyrchwyr newyddion pwrpasol o ystafelloedd newyddion rhanbarthol ar draws y DU, meddai Bethan Jenkins.
Mae’n mynd ati i ofyn am eglurhad ar sut y bydd hyn yn effeithio ITV Cymru.
“Mae ITV Cymru wedi buddsoddi llawer yn ddiweddar ar ei gwasanaethau ar-lein ac wedi cael peth llwyddiant yn dilyn hynny,” meddai Llefarydd Plaid Cymru ar Ddarlledu Bethan Jenkins AC.
“Rwy’n pryderu y gallai’r newidiadau hyn effeithio ar hynny. Nid yw’n glir i mi pam fod penaethiaid ITV yn ystyried newid rhywbeth sy’n ymddangos yn gweithio’n dda. Rwyf wedi ysgrifennu at benaethiaid ITV yn gofyn am ragor o wybodaeth am beth yn union sy’n cael ei gynllunio a sut y bydd yn effeithio ar ITV Cymru. Rwyf hefyd wedi gofyn am wybodaeth am y rhesymeg y tu ôl i’r newidiadau arfaethedig.
“Wrth i fwy a mwy o bobl droi at y we ar gyfer eu newyddion, mae’n bwysig bod gan ITV Cymru’r gallu i ddarparu cynnwys sy’n rhoi darlun cywir o’r hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru mewn perthynas â’n diwylliant, gwleidyddiaeth a materion cyfoes,” meddai.
Ymateb ITV Cymru…
Ond fe ddywedodd llefarydd ar ran ITV Cymru wrth Golwg360 nad oes yna “ddim sail i’r pryderon yn gysylltiedig â gwasanaeth ar-lein ITV Cymru.”
“Fe fydd y newidiadau arfaethedig mewn gwirionedd yn gwella gwasanaeth newyddion ar-lein ITV yn sylweddol pan fydd yn cael ei lansio yn 2012,” meddai llefarydd ar ran ITV Cymru wrth Golwg360.
“Wrth i ITV ddatblygu i fod yn wasanaeth newyddion aml blatfform integredig ar draws y cwmni, fe fydd yr holl gynnyrch digidol yn gyfrifoldeb yr ystafell newyddion fel un corff yn hytrach na rol unigolyn. Golyga hynny y bydd newyddiadurwyr a’r rhai sy’n casglu newyddion yn creu deunydd ar gyfer teledu yn ogystal â chynnyrch ar-lein. Fel rhan o’r broses hon fe fydd rol newydd ‘newyddiadurwr ystafell newyddion’ yn cael ei chreu ym mhob un o ranbarthau ITV.”
Cefndir
Mae ITV Cymru yn dweud mai rol “dros dro” oedd gan y cynhyrchwyr ar-lein o’r cychwyn a hynny “wrth i ITV symud tuag at y cynllun integredig o gynnyrch aml-gyfryngol” ac mai dyna pam mae cytundeb o fis i fis oedd ar gael ar gyfer y rol.
Bwriad ITV yw “creu ystafelloedd newyddion aml-gyfyngol integredig ble mae y rhai sy’n casglu newyddion yn cyfrannu at newyddion digidol a theledu.”
Maen nhw’n dweud y bydd holl staff yr ystafelloedd newyddion yn cael eu hyfforddi i’r diben hwn.
Fel rhan o’r broses hon – mae ITV yn creu rol newydd ar gyfer newyddiadurwr ystafell newyddion ym mhob rhanbarth. Bydd y rhai hynny fydd yn cael eu heffeithio gan y broses hon yn cael eu hadleoli i rol addas i’w sgiliau a’u profiad, meddai ITV Cymru wrth Golwg360.