Mae Heddlu Dyfed-powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A44 o Groes i Raeadr.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 1.15pm ddydd Sul, 2 Hydref. Mae’n debyg bod gyrrwr y beic modur Honda Fireblade wedi marw cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd.

Fe gafodd ei fab a oedd yn teithio y tu ôl iddo anafiadau difrifol a chafodd ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty’r Amwythig. Roedd y ffordd ar gau am rai oriau  tra bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â PC 1127 Aran Wareing yng ngorsaf heddlu’r Drenewydd ar 101.