Ben a Catherine Mullany
Mae ffrindiau’r cwpwl a gafodd eu llofruddio ar eu mis mêl yn Antigua yn 2008 wedi trefnu digwyddiad er cof am y cwpwl y penwythnos hwn.

Bydd Ben a Catherine Mullany yn cael eu cofio mewn taith gerdded pedair milltir ddydd Sadwrn, fydd yn dechrau yng Nghlwb Rygbi Cwmgors – lle y credir i’r cwpwl gwrdd am y tro cyntaf – cyn cynnal ocsiwn ac adloniant, i godi arian i elusen er cof am y cwpwl.

Daw’r digwyddiad ar ôl i’r llys yn Antigua gyhoeddi ddoe y bydd yn rhai oedi rhagor cyn clywed dedfryd y ddau a lofruddiodd y cwpwl.

Mae mwy na chant o bobol wedi penderfynu cymryd rhan mewn taith gerdded er cof am gyn asgellwr Clwb Rygbi Cwmgors, Ben Mullany, a’i wraig Catherine.

Bydd yr arian a gesglir yn cael ei roi i Gronfa Mullany, yr elusen sydd wedi ei sefydlu er cof am y cwpwl, er mwyn rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n astudio meddyginiaeth neu ffysiotherapi.

Yn ôl y trefnydd, a’r hyfforddwr rygbi, Kevin Williams, “Dylai Ben a Cath fod a’u bywyd i gyd o’u blaenau, ac eto fe gafodd ei ddwyn yn greulon oddi wrthyn nhw.

“Dwi’n gwybod nad fydd y bois rygbi ffordd hyn, na’r bobol a dyfodd lan gydag e, yn anghofio Ben.

“Ond ry’n ni eisiau gwneud yn siwr bod y gwaith da a wnaeth e a Cath yn cael ei gofio gan hyd yn oed mwy o bobol.

“Gyda’r disgwyl am y ddedfryd yn Antigua, ry’n ni wedi penderfynu gwneud rhywbeth er cof am Ben a Cath. Ry’n ni eisiau dangos i’w teuluoedd fod y bobol yma yn dal y tu ôl iddyn nhw ac y byddwn ni’n gwneud ein gorau fel bod o leia’ un peth da yn gallu dod o’r fath sefyllfa trasig.”

Mater cyfreithiol yn gohirio’r ddedfryd

Ddoe, fe glywodd teulu Ben a Catherine Mullany na fyddai’r ddedfryd hir-ddisgwyliedig yn cael ei chyhoeddi nes 17 Hydref.

Roedd disgwyl i’r ddau lofrudd, Kaniel Martin, 23, ac Avie Howell, 20, gael eu dedfrydu ddoe – ond mae hynny wedi cael ei ohirio gan nad yw adroddiadau seiciatrig ar y ddau wedi eu cwblhau.

Wedi tair blynedd yn dod â’r achos i’r llys, daeth yr achos i ben ym mis Gorffennaf eleni gyda Kaniel Martin ac Avie Howell yn cael ei dyfarnu’n euog o ladd y cwpwl o dde Cymru. Ar ddiwedd yr achos hwnnw, dywedodd erlynwyr Antigua y bydden nhw’n cymryd eu hamser i ystyried galw am y gosb eithaf i’r ddau.

Yn ôl ffrindiau teulu Ben Mullany, maen nhw’n gobeithio gallu rhoi’r achos “tu ôl iddyn nhw” cyn hir, ond nad yw gorfod aros pythefnos arall yn ormod o ofid ar ôl tair blynedd.

“Bydd Cynlais a Marilyn byth yn dod dros eu colled, ond byddan nhw’n fodlon i wybod bod y ddau ddyn creulon yma dan glo. Ac am oes gobeithio. Fe  fydd yn rhaid i ni aros i weld.”