Awydd i “uno’r Cymry” ledled y byd sydd wedi sbarduno creu’r Twitter Cymreig, yn ôl ei sefydlydd.
Cafodd ‘Tŵt’ ei lansio ar Ionawr 1, ac yn debyg i Twitter mae’n galluogi defnyddwyr i rannu negeseuon byrion.
Ond yn wahanol i’r platfform Americanaidd, mae Tŵt yn ymfalchïo mewn dwyieithrwydd ac yn annog pobol i gyfrannu deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cymro alltud yw’r sefydlydd, Jazz-Michael King, 47, ac ers 1996 mae wedi bod yn byw yn Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.
Mae’n galw ei hun yn “foi technoleg” a “nerd cyfrifiaduron”, ac yn esbonio’r hyn a wnaeth ei ysgogi.
“Ar ôl bod yma am 20 blynedd roedd yn hyfryd gweld y Cymry alltud yn dod at ei gilydd,” meddai wrth golwg360. “Mae adfywiad o fomentwm Cymreig wedi bod yn y ddinas.
“Trwy hynny dechreuais weithio â chriw GlobalWelsh a Tŷ Francis o Wales Week. Yn hynny i gyd, mi welais lawer o awydd i werthu Cymru ac i uno’r Cymry sydd wedi’u gwasgaru ledled y byd.
“Ond doedd neb o fy nghefndir i yn cymryd rhan. A doedd neb yn adeiladu ffordd i bobol gyfathrebu â’i gilydd. [Felly sefydlais Tŵt].”
Cymuned yw GlobalWelsh sy’n ceisio cadw Cymru alltud mewn cysylltiad. Mae Tŷ Francis yn Gadeirydd ar Wales Week – sef wythnos o ddathlu Cymru sy’n cael ei gynnal yn flynyddol.
Pwy yw Jaz?
Cafodd Jazz-Michael King ei eni a’i fagu yn ne Morgannwg, ac mae ei deulu yn ddi-Gymraeg. Symudodd i Brooklyn yn 1996 pan oedd yn 15 oed.
Cyn hynny bu’n byw yn Ffrainc am dair blynedd, ac mae’n dweud mai Ffrangeg oedd ei brif iaith. Bu’n rhaid iddo “ailddysgu” Saesneg pan symudodd i’r Unol Daleithiau, meddai.
Bellach mae wedi priodi dynes o America, mae’n dad, ac mae’n Swyddog Gweithredol ar gwmni iechyd. “Technology boss guy” yw sut mae’n disgrifio ei swydd.