Mae perchnogion siop losin draddodiadol yn Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod nhw am ddod â’r busnes i ben ddiwedd y mis.
Mae Isaac’s Traditional Sweet Shop, sy’n gwerthu amrywiaeth o fferins traddodiadol, wedi bod â phresenoldeb ar Heol y Wîg yn y dref ers naw mlynedd.
Ond mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed y perchnogion eu bod nhw’n bwriadu cau’r drysau am y tro olaf, gan nad yw masnach “yr un fath bellach”.
“A thristwch mawr rydyn ni’n cyhoeddi y bydd Isaac’s Traditional Sweet Shop Aberystwyth yn cau ar ddiwedd y mis,” meddai’r perchnogion ar Facebook.
“Rydyn ni wedi cael naw mlynedd arbennig o fod yn rhan o’r gymuned, a hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid am flynyddoedd o ffyddlondeb.
“A chymaint o siopau gwag ar Stryd y Pier, dydy masnach ddim yr un fath bellach, gan ei gwneud hi’n anodd i barhau.
“Rydyn ni’n gobeithio ein bod ni’n eich gadael gydag atgofion da, naill ai o ymweld â’r siop neu ymuno â ni ar ein Helfeydd Pasg.”