Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am wraig o Abertawe sydd ar goll.
Mae Lauren Barnett yn 24 oed ac yn dod o ardal y Gendros yn y ddinas. Does neb wedi ei gweld ers 6.15yb ddydd Sadwrn (Mawrth 9).
Mae hi’n arfer ymweld ag Abertawe a Chaerdydd yn gyson.
Pan welwyd hi ddiwethaf, roedd Lauren Barnett yn gwisgo pyjamas (trowsus coch a thop gwyn), gŵn nos gyda ffwr o gwmpas y pen, a slipars am ei thraed.