Mae Plaid Cymru wedi troi at wefan gymdeithasol Twitter i egluro pam na fydd yr aelodau yn San Steffan yn cefnogi cynllun ymadael Theresa May.

Maen nhw’n cefnogi cynnal Pleidlais y Bobol, er mwyn rhoi’r hawl i drigolion gwledydd Prydain ddweud be’ ddylai ddigwydd nesa’ yn y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Heddiw, (dydd Mawrth, Mawrth 12) fe fu arweinydd y grŵp yn Nhŷ’r Cyffredin, Liz Saville Roberts, yn dweud na allai hi byth bythoedd gefnogi dêl a fyddai’n gwneud Cymru’n dlotach.

Mae’n dal i ddweud bod angen i Brydain aros o fewn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.