Mae aelod o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiswyddo mewn protest yn sgil penderfyniad i ganoli gwasanaeth fasgiwlar y gogledd yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Dywed Bethan Russell Williams ei bod hi’n poeni y bydd “bywydau’n cael eu colli” mewn ardaloedd gwledig oherwydd y newid – honiad y mae’r bwrdd iechyd yn ei wrthod.

Mae meddygon teulu’r ardal hefyd wedi dweud eu bod yn poeni ynglŷn â chynllun i symud gwasanaethau fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Wrth ateb cwestiynau yn y Cynulliad ddydd Mawrth – yn absenoldeb y Prif Weinidog, Mark Drakeford – fe ddywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths bod yna “ddryswch” ynghylch dyfodol y gwasanaeth ac mae’r bwrdd wedi cydnabod y dylid bod wedi geirio dogfennau ar y pwnc yn well.

Mae gwasanaethau fasgiwlar yn rhan allweddol o’r gofal a ddarperir yn Ysbyty Gwynedd, ac yn cynnwys llawdriniaeth ar gyfer pobl sydd â bygythiad i’w bywyd drwy waedu difrifol ac i arbed coesau neu freichiau yn ogystal â gofal barhaus ar gyfer cleifion ar ddialysis yr arennau.

Penderfyniad “anodd”

Cafodd Ms Russell Williams ei phenodi fel aelod annibynnol o’r bwrdd bedair blynedd a hanner yn ôl gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n dweud bod y penderfyniad i ymddiswyddo yn un “anodd iawn.”

Dywedodd wrth BBC Cymru: “Dwi’n teimlo yn drist iawn, bod o wedi gorfod dod i hyn a bo fi wedi teimlo bo rhaid i mi ymddiswyddo.

“Dwi’n teimlo’n bryderus dros boblogaeth yr ardal, ym Mhen Llŷn er enghraifft, lle ’dwi’n gwybod dy’n nhw ddim yn mynd i fedru cyrraedd gwasanaethau brys mewn pryd.”

Dywedodd bod dogfen y bwrdd ym Mawrth 2018 yn datgan yn “glir iawn” bod gwasanaethau fasgiwlar brys yn aros yn Ysbyty Gwynedd.

“Mae’r bwrdd yn honni mai dyma’r penderfyniad a wnaed yn 2013,” meddai. “Mi wnaethpwyd ymgynghoriad sylweddol amser hynny a mae nhw’n honni bod y penderfyniad yma i symud y gwasanaethau brys yn rhan o’r ymgynghoriad yna.”

Mae AC Arfon, Siân Gwenllïan – a gododd y mater yn y Senedd -wedi galw ar y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething i gynnal ymchwiliad.

Meddai: “Mae angen gofyn cwestiynau mawr. Yn gyntaf, ynglŷn â doethineb symud y gwasanaeth ac yn ail am y broses sydd wedi cael ei dilyn gan fwrdd sy’ mewn mesurau arbennig er mwyn cyrraedd at y penderfyniad ac y camarwain sy’ ’di digwydd yn ei gylch o.”

Mae diffyg manylder ynghylch y newidiadau yn destun pryder i feddygol lleol, sy’n cwrdd â phenaethiaid y bwrdd yr wythnos nesaf.

Mewn datganiad yn diolch i Bethan Russell Williams am ei chyfraniad, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Mae tystiolaeth yn dangos os yw claf yn gallu cael ei sefydlogi er mwyn ei gludo i’r ysbyty, yna mae gan deithio ychwanegol i ganolfan arbenigol lai o effaith ar ganlyniad y cyflwr na safon y gofal gall gael ei gynnig gan uned arbenigol unwaith mae claf yn cyrraedd.

“Nid yw Ysbyty Gwynedd yn cynnig gwasanaeth fasgwlar brys drwy’r dydd a nos.

“Mae ein gwasanaeth fel mae hi ar hyn o bryd dan straen, ac nid oes modd i ysbytai unigol ddarparu gofal fasgwlar brys ddydd a nos, felly mae gwasanaethau tu hwnt i’r oriau arferol yn naill ai Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Maelor Wrecsam am yn ail.

“Os na all claf deithio, mae llawfeddyg ar alw yn teithio atynt. Bydd hyn yn parhau gyda’r gwasanaeth newydd.”

Mewn ymateb i sylwadau Ms Griffiths ynghylch geiriad eu dogfen, dywed y bwrdd y “gallai’r geiriad, ac fe ddylai’r geiriad, fod wedi bod yn gliriach”.