Ail-ddewiswyd y cyn AS Mark Williams fel ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Ceredigion.

Roedd Mr Williams yn AS dros Geredigion o 2005 i 2017 pan enillwyd y sedd gan Ben Lake i Blaid Cymru gyda 11,623 o bleidleisiau sef 29.2% o’r bleidlais ond gyda mwyafrif o ddim ond 104.

Dywedodd Mr Williams ei fod wedi parhau i ymgyrchu yn lleol gan gynnwys protestio yn erbyn cau Cartref Gofal Bodlondeb yn Aberystwyth.

Meddai: “Rwy’n teimlo yn ddiymhongar iawn fod aelodau y blaid wedi fy newis i’w cynrychioli ac i sefyll yn etholaeth Ceredigion unwaith eto a dwi’n falch o fod yn rhan o dîm y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer canolbarth Cymru,

Dywedodd ei fod yn “siomedig iawn” i weld fod Cyngor Ceredigion, dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, wedi “goruwchwylio cau gwasanaethau hanfodol fel cartref gofal  Bodlondeb.”

Ychwanegodd: “Rydym ni eisiau gweld Cymru ble mae ynni gwyrdd yn cael ei hybu, ffermwyr a chymunedau gwledig yn cael eu cefnogi, a ble na ddylai unrhyw un deimlo’n ynysig ac unig wrth fynd yn hen.”

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds: “Dwi yn falch iawn fod Mark wedi cael ei ail-ddewis i sefyll yng Ngheredigion. Roedd Mark yn AS gwych ac mae ei lais wedi cael ei golli o Dy’r Cyffredin.”