Mae llwyth gwaith penaethiaid ysgolion yng Nghonwy wedi lleihau ers cael cymorth swyddogion cymorth busnes, meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Cafodd cyfarfod ei gynnal rhwng penaethiaid ysgolion o Gonwy a’r Gweinidog Addysg ddoe (Dydd Iau, Mawrth 7) i drafod sut mae’r ysgolion wedi elwa ers cael cymorth y swyddogion cymorth busnes.

Pwrpas y swyddogion hyn, sydd wedi bod mewn 21 ysgol yng Nghonwy dros y flwyddyn ddiwethaf, yw ymgymryd â rhai o’r gwaith gweinyddol a threfnu y byddai penaethiaid fel arfer yn ei wneud.

Mae’n cael ei ariannu fel rhan o gynllun peilot Rheolwyr Busnes Ysgolion a’r Grant Ysgolion Bach a Gwledig gyda’r bwriad o alluogi penaethiaid i gael mwy o amser i ddysgu, i godi safonau a gwella perfformiadau disgyblion.

Mae 70% o benaethiaid ysgolion Conwy wedi ymuno a’r prosiect.

Yn ôl Kirsty Williams, mae’r penaethiaid hyn “wedi adrodd bod llwyth gwaith tasgau gweinyddol wedi lleihau,” ac mae “wedi arwain at fwy o gydweithio rhwng ysgolion cynradd.”

 “Gwahaniaeth go iawn”

“Mae Swyddogion Cefnogi Busnes wedi helpu ni i ddefnyddio mwy o’n hamser ar arwain ysgolion oherwydd eu bod yn gallu ymgymryd â’r tasgau gweinyddol uwch,” meddai Delyth Williams, Rheolwr Busnes yn Ysgol Dyffryn Conwy.

“Mae’r cynllun yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ysgolion,” meddai.

Yn ôl Delyth Williams hefyd, nid yn unig mae’r cynllun wedi helpu i godi safonau, ond mae hi hefyd wedi cyfrannu’n fawr at gynaliadwyedd ysgolion bach a gwledig y Sir.

“Mae’n annog a chefnogi gweithio ysgol-i-ysgol, gan alluogi penaethiaid i rannu arferion da a chydweithio er mwyn cynyddu capasiti a rhannu arbenigedd,” meddai.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Kirsty Williams: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gwrdd â’r rheolwyr cefnogi busnes a’r penaethiaid  i glywed am effaith y rhaglen ar yr ysgolion.

“Mae’n galonogol gweld sut mae Conwy wedi defnyddio’r grant i roi cefnogaeth weinyddol ychwanegol i ryddhau amser penaethiaid ysgolion cynradd er mwyn canolbwyntio ar arwain a rheoli.

“Rwy hefyd yn hapus iawn i weld bod 70% o benaethiaid wedi ymuno â’r prosiect.  Maen nhw wedi adrodd bod llwyth gwaith tasgau gweinyddol wedi lleihau a bod hyn wedi arwain at fwy o gydweithio rhwng ysgolion cynradd.”