Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (Dydd Gwener, Mawrth 8) y bydd £2m o gyllid yn cael ei roi i wella bywydau pobol ag anableddau dysgu.
Bydd y cyllid yn cael ei roi yn benodol at wella darpariaeth gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i’r bobol hyn, meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
O fewn y maes yma mae gwasanaethau tai, iechyd, addysg, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol.
Ffyniant i Bawb
“Yn ein strategaeth yn rhaglen ‘Ffyniant i Bawb’ rydym wedi ymrwymo i wella iechyd a lles cyffredinol pob unigolyn yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething.
“Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn cefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd i bobl ag anabledd dysgu i leihau anghydraddoldebau iechyd ac i helpu i wella iechyd ac ansawdd bywyd pobl.”
Bydd y £2m yn cael ei ddefnyddio i:
– Leihau’r defnydd diangen o feddyginiaethau gan weithio ar ddatrysiadau newydd
– Gwella ansawdd apwyntiadau blynyddol gan ddoctoriaid teulu.
– Galluogi pobol ag anableddau dysgu i gael mynediad at wasanaethau prif ffrwd mewn ysbytai.
– Sicrhau fod gan bobol sydd ag anghenion anodd fynediad i wasanaethau arbenigol.
– Creu fframwaith nyrsio arbenigol mewn ysgolion.