Mae cyn-gadeirydd ymgyrch arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cael ei ddedfrydu am bron i bedair blynedd yn y carchar am dwyll treth.

Daw’r ddedfryd yn dilyn twyll Paul Manafort oedd yn gysylltiedig â’i waith yn ymgynghori ar wleidyddiaeth yr Wcráin.

Y cwnsel arbennig, Robert Mueller, oedd wedi ymchwilio i weithgareddau Paul Manafort, a doedd dim cysylltiad i’w rôl yn ymgyrch etholiadol yr arlywydd Donald Trump.

Yn ôl y rheithgor y llynedd, mae Paul Manafort yn euog o wyth cyhuddiad o dwyll am ei fod wedi cuddio miliynau o ddoleri a enillodd o’i waith yn yr Wcráin o’r Gwasanaeth Refeniw Mewnol (IRS).

Mae Paul Manafort yn dal i wynebu gael ei ddedfrydu yn ardal Columbia hefyd, lle plediodd yn euog mewn achos ar wahân sy’n gysylltiedig â lobïo anghyfreithlon.

Dadl ei gyfreithwyr oedd mai achos o dwyll treth arferol oedd hon, gan gyfeirio at nifer o ddedfrydau yn y gorffennol ble mae pobol wedi cuddio miliynau ac wedi cael llai na blwyddyn yn y carchar.

Wrth adael y llys dywedodd Kevin Downing, cyfreithiwr Paul Manafort, bod ei gleient wedi derbyn cyfrifoldeb am ei ymddygiad “ac nad oedd unrhyw dystiolaeth ei fod yn gysylltiedig” gyda llywodraeth Rwsia.