Mae’r dyn a gynheuodd y tân yng ngwesty Belgrave House, Aberystwyth, ar Orffennaf 25 y llynedd wedi’i garcharu am 16 o flynyddoedd.

Fe fydd Damion Harris, 31 oed o Lanbadarn, yn treulio pum mlynedd ar drwydded.

Roedd wedi bod yn yfed cyn rhoi cwpwrdd a llenni ar dân, ac mae wedi cyfaddef dynladdiad Juoxas Tunaitis.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 5) ei fod wedi gwneud hynny drwy ddefnyddio taniwr sigarét ar ôl sleifio i mewn i’r gwesty o gwmpas 2 y bore ar ôl bod mewn tafarndai a chlwb nos.

Daethpwyd o hyd i gorff Juoxas Tunaitis, 48, a oedd yn swyddog diogelwch tân ym Mhrifysgol Aberystwyth, o dan weddillion yr adeilad ddeufis yn ddiweddarach.

“Bwriad clir”

Roedd 16 o westeion yn aros yn y gwesty’r noson honno pan ddechreuodd mwg tew lenwi’r adeilad ar ôl i Damion Harris gynnau’r tân yn y selar.

Bu’n rhaid i ferched, dynion a phlant ddianc drwy ddringo ar do’r gwesty a neidio oddi arno er mwyn osgoi’r fflamau yn oriau mân y bore.

Yn ôl yr erlynydd Michael Jones, roedd Damion Harris wedi gweithredu gyda “bwriad clir, ac oedd yn amlwg yn beryglus.

“Roedd yn debygol o arwain at anaf difrifol neu farwolaeth, a dyna ddigwyddodd,” meddai.

Roedd camerâu’r gwesty yn dangos Damion Harris yn symud diffoddydd tan o’r dderbynfa a’i guddio ar lefel uwch, cyn dychwelyd i lawr i’r seler i osod y llenni a’r cwpwrdd ar dân.

Derbyn ple

Fe gyhuddwyd Damion Harris yn wreiddiol o lofruddio Juoxas Tunaitis, ond cytunodd yr erlynydd i dderbyn ei ble o fod yn euog o ddynladdiad. Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf.