Mae rhybudd am dywydd garw dros y penwythnos, wrth i Storm Freya ledu ar draws gwledydd Prydain.
Daw’r rhybudd am dywydd difrifol yn dilyn wythnos fwynach na’r arfer ar gyfer mis Chwefror, gyda rhai rhannau o Geredigion a Gwynedd wedi gweld y tymheredd yn cynyddu i lefelau uwchben 20⁰C.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl trafferthion ar y ffyrdd a difrod i adeiladau wrth iddyn nhw ddarogan y bydd gwyntoedd yn cyrraedd 80 milltir yr awr mewn mannau ger yr arfordir, a rhwng 55 a 65 milltir yr awr mewn ardaloedd mewndirol.
Ardaloedd yng Nghymru, Dyfnaint, Cernyw a gogledd-ddwyrain Lloegr fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y gwyntoedd, ac mae disgwyl eira ar diroedd uchel hefyd.