Mae un o brifysgolion y brifddinas yn “cadw llygad” ar y berthynas rhwng cwmni technolegol mwya’r byd a cholegau gwledydd Prydain.
Cwmni Tsieineaidd yw Huawei, a’r mis diwethaf fe gyhoeddodd Prifysgol Rhydychen y byddan nhw’n gwrthod derbyn arian wrthyn nhw yn y dyfodol oherwydd “pryderon cyhoeddus”.
Mae cwestiynau wedi codi am berthynas y cwmni â Llywodraeth Tsieina, ac mae sawl gwlad wedi honni y gallai eu hoffer cael eu defnyddio ar gyfer ysbïo.
Yn ogystal â Rhydychen, mae dros ddwsin o brifysgolion yng Nghymru yn derbyn nawdd oddi wrth Huawei, ac un o’r rheiny yw Prifysgol Caerdydd.
Mae llefarydd ar eu rhan yn nodi bod ganddyn nhw “nifer bach o grantiau ymchwil a datblygu gyda Huawei” ac mae’n cynnig darlun o’u perthynas.
“Rydym yn parhau i gydweithio â Huawei ar gontractau ymchwil yr ydym eisoes wedi cytuno i’w cynnal â nhw,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd wrth golwg360.
“Byddwn yn craffu ar unrhyw gytundebau ymchwil newydd gyda noddwyr newydd, neu sefydliadau sydd eisoes yn ein noddi.”
Cydweithio
Cafodd dau o gyd-brosiectau Huawei a Phrifysgol Caerdydd eu cyhoeddi pedair blynedd yn ôl, ym mis Medi 2015.
Nod y ddau brosiect ‘ymchwil a datblygu’ yw lleihau costau ‘rhwydweithiau cyfathrebu’ a gwella darpariaeth band eang ar ffonau symudol.
Mae’r llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd hefyd wedi datgelu bod eu “hymchwilwyr yn cydweithio gyda busnesau Huawei o lefydd ledled Ewrop ar sawl prosiect.”