Mae Cyngor Lerpwl wedi newid ei hagwedd at hanes Cymreig y ddinas, yn ôl aelod grŵp treftadaeth.
Cafodd ‘Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi’ ei sefydlu yn 2000, ac ers hynny mae wedi codi placiau i lu o ffigyrau Cymreig gan gynnwys Gwilym Hiraethog a Saunders Lewis.
Mae un o’i sefydlwyr, D Ben Rees, yn mynnu eu bod wedi gwneud “lot o waith” a bellach gyda “tipyn o ddylanwad”.
“Ar y dechrau, pan ddes i yma am y tro cyntaf, Gwyddelod oedd y cwbwl,” meddai wrth golwg360.
“Dyna oedd yr argraff oedd yn cael ei rhoi oherwydd roedd nifer o haneswyr da iawn yn y brifysgol oedd yn arbenigo ar hanes y Gwyddelod.
“Ond rydyn ni yn gwneud impact go dda. Rydyn ni wedi newid y pwyslais. Mae’r ddinas, a neuadd y ddinas, yn deall hynny.
“Rydyn ni wedi dod ag arweinwyr y ddinas i fewn i’n dathliadau ni. Maen nhw’n dechrau sylweddoli bod cyfraniad Cymru yn go fawr yn y ddinas.”
Y Strydoedd Cymreig
Un “buddugoliaeth go fawr” i’r grŵp, meddai D. Ben Rees, oedd penderfyniad y Cyngor Lerpwl i newid eu cynlluniau ar gyfer Strydoedd Cymreig y ddinas.
Roedd cymuned Gymreig Lerpwl yn arfer byw mewn tai yn y Strydoedd Cymreig, ac mae’r strydoedd hynny ag enwau Cymraeg arnyn nhw.
Mae D. Ben Rees yn dweud bod y Cyngor wedi bwriadu eu dymchwel i gyd, ond ar ôl rhywfaint o ymgyrchu mae’n dweud y bu iddo eu hargyhoeddi i’w adnewyddu yn lle.
Mater newydd sydd o bryder i D Ben Rees yw Ffynnon y Piazza. Cafodd y ffynnon ei dylunio gan y Cymro, Richard Huws ac mae yna gynlluniau i’w symud.
“Fuaswn i ddim eisiau i hwnnw ddianc chwaith,” meddai. “Dw i’n gobeithio eu bod yn mynd i’w rhoi yn rhywle lle fydd pobol yn medru ei weld.”