Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i ddyn gael ei drywanu mewn pentref glan môr yng Ngheredigion.

Fe gafodd swyddogion eu galw i’r Borth, i’r gogledd o Aberystwyth, wedi’r ymosodiad toc cyn 10 o’r gloch fore heddiw (dydd Iau, Chwefror 28).

Mae’r gŵr wedi’i gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad, meddai’r heddlu, tra’r oedd yn mynd â’i gŵn am dro ger sŵ y Wild Animal Kingdom.

Mae dyn 21 wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.