Mae’r heddlu ym Mhenybont-ar-Ogwr yn apelio am wybodaeth ynglŷn â dyn 43 oed sydd wedi mynd ar goll.

Cafodd Lyn Davies ei weld y tro olaf yn ardal Bedwas ychydig cyn 11am ddydd Mercher, 28 Medi. Mae ganddo gysylltiadau gyda ardal Bedwas a Chaerffili.

Roedd yn gwisgo bŵts brown, jîns glas, a chrys gwyn. Mae’n 5 troedfedd 6 modfedd o daldra, gyda llygaid glas ac yn colli ei wallt. Mae ganddo dri tatŵ ar ei freichiau.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar unwaith.