Mae corff wedi cael ei ddarganfod yn yr afon ger castell Caerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw am 1.15yp heddiw (dydd Sul, Chwefror 24).

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ac mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar y rhifau arferol.