Mae ymgyrchwyr iaith yn y gogledd yn cwyno am y modd y mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal ymgynghoriad mewnol ar ail-strwythuro canolfannau iaith y sir.

Yn y canolfannau hyn mae disgyblion di-Gymraeg yn cael eu trochi yn yr iaith, cyn dychwelyd i ysgolion i dderbyn addysg Gymraeg.

Yn ôl y cyngor, dydyn nhw ddim yn derbyn digon o gyllid Llywodraeth Cymru i gynnal strwythur staffio presennol y canolfannau, a’r bwriad yw defnyddio cymorthyddion yn lle athrawon o fis Medi ymlaen.

Mae nifer eisoes wedi mynegi pryderon ynghylch y newid hwn, gan ddweud y byddai’n gwanhau’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i blant a phobol ifanc y sir.

Mae Cylch yr Iaith yn honni bod gwendidau yn y broses ymgynghori, gan ddweud na ddylai’r broses fynd yn ei blaen gan fod “y diffygion mor ddifrifol fel bod yr ymgynghoriad yn annilys”.

Y cwynion

Mewn llythyr at Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams, mae Cylch yr Iaith yn honni:

  • na chafodd cyrff na swyddogion, fel Pwyllgor Iaith y sir, Gwasanaethau Iaith y cyngor, Hunaniaith a Deilydd Portffolio’r Gymraeg, eu gwahodd i gyfrannu at y broses o’r cychwyn.
  • nad yw’r ddogfen ymgynghori yn cynnwys “maen prawf hanfodol” i osod yr opsiynau yn ei erbyn, sef ansawdd y ddarpariaeth;
  • nad oes asesiadau effaith wedi eu gwneud o’r opsiynau sydd wedi cael eu cyflwyno i staff y canolfannau iaith;
  • bod “aneglurdeb camarweiniol” yn natganiadau’r cyngor ynghylch sut mae’r canolfannau yn cael eu hariannu;
  • bod methiant i ddarparu’r wybodaeth gyflawn a chywir, ynghyd ag “adroddiad cynhwysfawr” ar asesiadau effaith o’r opsiynau i aelodau Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi’r sir.

‘Dim cyfle i wrthwynebu’

“Mae’r cyngor wedi gwrthod derbyn dirprwyaeth ar y cyd o Gylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith a Dyfodol i’r Iaith i drafod eu gwrthwynebiad hyd nes y bydd yr ymgynghoriad wedi ei gwblhau,” meddai Cylch yr Iaith ymhellach.

“Hefyd, mae’r cyngor wedi dweud na fydd pob aelod yn cael cyfle i fynegi barn ar y mater mewn cyfarfod o’r cyngor llawn, ond yn hytrach bydd Cabinet y Cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol ar Ebrill 2.”

Ymateb Cyngor Gwynedd

“Er honiadau gan rai i’r gwrthwyneb, ymgynghoriad mewnol ar strwythur cyflogaeth sydd yma ac nid ymgynghoriad cyhoeddus,” meddai llefarydd.

“Yn groes i awgrym yn natganiad Cylch yr Iaith, nid oes unrhyw opsiwn sydd dan ystyriaeth yn golygu fod cymorthyddion yn unig yn arwain gwaith y canolfannau. Gyda hob opsiwn dan ystyriaeth, byddai athrawon cymwysedig ym hob canolfan.

“Gan mai ymgynghori gyda staff ac undebau sy’n digwydd ar hyn o bryd, nid yw Cabinet y Cyngor eto wedi hyd yn oed ystyried yr opsiynau, a bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried ganddynt cyn dod i benderfyniad ar y ffordd ymlaen.

“Bydd y Cyngor yn ymateb yn uniongyrchol i’r gohebiaeth gan Gylch yr Iaith maes o law.”