Mae myfyrwraig yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, yn pryderu’n fawr am ddyfodol yr adran yn dilyn ymgynghoriad gan y Brifysgol ar leihau nifer y staff yno.

Yn ôl Bethan Lloyd Dobson, sy’n 52 oed ac yn fyfyrwraig ôl-radd mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol, mae peryg y byddai hunaniaeth yr adran yn cael ei cholli.

“Eu bwriad nhw ydi cael gwared ag un o athrawon Ysgol y Gymraeg a chreu adran Astudiaethau Celtaidd,” eglura Bethan Dobson wrth golwg360, “ond os ydi’r teitl yna’n dod bydd Ysgol y Gymraeg – fydd hi wedi colli’r hunaniaeth sydd ganddi.

“Dw i ddim yn gwybod os ydi’r uwch reolwyr yma ym Mangor yn sylweddoli faint ydi cyfraniad athrawon nid yn unig i Ysgol y Gymraeg, ond i’r Brifysgol hefyd,” meddai.

“Does dim hanes digon o fanylder, ac mae’n arwynebol iawn” meddai Bethan Dobson am yr ymgynghoriad – “does dim dyddiadau, dim sut, na phryd, na lle!”

“Ychydig iawn rydan ni’n cael gwybod,” meddai wedyn.

“Addysgu’n dda ac yn grefftus”

Tydi Bethan Dobson ddim yn credu bod gwaith Ysgol y Gymraeg yn cael ei werthfawrogi ddigon gan uwch reolwyr Prifysgol Bangor.

“Ryan ni’n cael arweiniad bendigedig gan yr Ysgol – maen nhw’n dysgu’n dda ac yn grefftus,” meddai.

“Maen nhw’n mynd i eisteddfodau cenedlaethol, cymdeithasau, cynadleddau, ysgolion a thrwy hynny mae Ysgol y Gymraeg a’r Brifysgol wrth reswm yn dod i lygad y byd.”

Does dim gwadu arni fod y newyddion wedi cael effaith estynedig ar deimladau pobol o fewn yr Ysgol yn dilyn yr ymgynghoriad, yn ôl Bethan Dobson.

“Mwya’ sydyn mae hwn wedi cael ei godi a dw i ychydig bach yn ddrwgdybus ynglŷn â be’ sy’n mynd ymlaen ar y funud – mae’r morâl yn isel,” meddai.

“Ag os ydan ni fyfyrwyr yn teimlo’n isel, duw a ŵyr sut mae’r darlithwyr yn teimlo.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Brifysgol Bangor.

Gwrandewch ar bryderon Bethan Dobson…