Mae cynlluniau gan gwmni wisgi Penderyn i agor distyllfa a chanolfan groeso newydd yn Abertawe, wedi cael eu cymeradwyo.
Bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu hagor ar safle hen weithfeydd copr Hafod Morfa, ger Stadiwm Liberty.
Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn, a chael ei gwblhau erbyn 2022 ar ôl derbyn £3.75m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Un safle sydd gan y cwmni ar hyn o bryd, a hwnnw ym mhentref Penderyn ger Aberdâr.
Mae Cyngor Abertawe’n disgwyl i’r safle newydd yn ail ddinas Cymru ddenu dros 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Hanes y cwmni
Daeth criw o ffrindiau at ei gilydd i agor y ddistyllfa ym mhentref Penderyn ar ymyl Bannau Brycheiniog – y gyntaf yng Nghymru ers dros ganrif.
Cafodd y safle ei ddewis oherwydd y cyflenwad da o ddŵr ffynnon yn yr ardal.
Cafodd y cwmni ei agor ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2004.
Bellach, mae’r cwmni’n adnabyddus ar draws y byd, ac yn cyflenwi busnesau yn Tsieina, Rwsia ac Awstralia.
Mae rhan fwya’r wisgi yn cael ei roi mewn casgenni yn y selar, a’r gweddill yn cael ei ddefnyddio i greu cynnyrch eraill.