Mae ymgynghoriad ar y ffordd mae cŵn a chathod bach yn cael eu gwerthu wedi cael ei lansio heddiw (Dydd Mawrth, Chwefror 19) gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Teimlad yr Aelod Seneddol yw bod angen gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti yn gyfan gwbwl.
Ar hyn o bryd, maen nhw’n gallu cael eu prynu naill ai drwy drydydd parti, yn uniongyrchol o fridiwr neu o ganolfan achub.
Gwerthwyr trydydd parti
Gwerthwyr masnachol trydydd parti yw’r rhai sy’n gwerthu anifeiliaid anwes wedi’u trwyddedu – yng Nghymru mae’n rhaid cael trwydded o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.
Mae rhwng 40,000 ac 80,000 o gŵn bach a chathod yn cael eu gwerthu drwy drydydd parti yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn.
Y pryder yw y gallai gwerthiant trydydd parti fod yn gysylltiedig ag amodau lles gwaeth i’r anifeiliaid o gymharu â bridwyr uniongyrchol.
Gall hyn gynnwys cyflwyno’r anifail i amgylcheddau newydd a dieithr – a’i fod yn fwy tebygol y byddai’n rhaid i’r cŵn a’r cathod bach wneud sawl taith.
Yr ymgynghoriad
Bwriad yr ymgynghoriad i ddechrau yw ceisio casglu gwybodaeth am natur cadwyn gwerthu cŵn a chathod bach i weld sut ymyrraeth all ddod gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Lesley Griffiths, “mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.”
“Mae tystiolaeth glir ei bod yn bosibl y byddai mwy o berygl o glefydau a llai o gyfle i anifeiliaid fod yn gymdeithasol a chreu arferion o werthu cŵn a chathod bach drwy drydydd parti o gymharu â phrynu yn uniongyrchol o’r bridiwr.
“Nid yw bob amser yn amlwg i’r prynwr o ble y daeth eu hanifail anwes newydd, neu o dan ba amodau y cafodd ei fagu.
Bydd yr ymgynghoriad yn ffordd o gasglu gwybodaeth er mwyn ceisio gwneud gwelliannau i les cwn a chathod bach yng Nghymru.
“Rwy’n annog i unrhyw un sydd â diddordeb mewn lles anifeiliaid fod yn rhan o hyn a rhannu eu barn gyda ni ar sut y gallwn wella amodau gwerthu a sicrhau arferion lles da,” meddai Lesley Griffiths.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng Chwefror 19 a Mai 17, 2019.