Mae cyn-weinidog yn Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhybuddio y gallai arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn, gael ei gofio am fod yn “was bach” i lywodraeth Geidwadol Theresa May.

Hynny, meddai Alun Davies Aelod Cynulliad Blaenau Gwent, os bydd Llafur yn helpu’r Ceidwadwyr i sicrhau bargen i fynd â’r Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn gwrs gyda’r cyflwynydd teledu Guto Harri ar gyfer rhaglen S4C Y Byd yn ei Le, fe alwodd eto ar i’r arweinydd Llafur alw am ail refferendwm Brexit.

“Dw i eisie iddo fe gydnabod polisi’r Blaid Lafur, dw i eisie iddo fe weithredu polisi’r Blaid Lafur a dw i eisie iddo fe sefyll dros egwyddorion y Blaid Lafur,” meddai.

Fe rybuddiodd y byddai’r Blaid Lafur yn cael ei “chosbi” petai’n helpu i sicrhau Brexit i’r Ceidwadwyr ac fe fyddai Jeremy Corbyn yn cael ei gofio am fod yn “was bach y Blaid Geidwadol” a’r llywodraeth waetha’ yr oedd wedi ei gweld.