Mae heddlu wedi cadarnhau bod corff dyn o Gaerfyrddin wedi cael ei ddarganfod yn Lloegr.

Cafodd y corff ei ffeindio ar draeth ger Instow, yng ngogledd Dyfnaint, ar Ionawr 17.

A bellach mae Heddlu Dyfed-Powys wedi datgelu mai Gary Shepherd-Mason, 54, yw’r dyn.

Doedd neb wedi ei weld ers Tachwedd 15 y llynedd, ac ers hynny mae’r llu wedi bod yn cynnal ymgyrch i ddod o hyd iddo.