Amheuon ei fod wedi cyflawni twyll arianno

Mae heddlu’r Maldives wedi galw ar brif erlynydd y wlad i gyhuddo’u cyn-Arlywydd o gyflawni twyll ariannol.

Bellach mae’r llu wedi datgelu bod ganddyn nhw dystiolaeth ddigonol i gyhuddo Yameen Abdul Gayoom, yn ogystal â’i gyn-Weinidog Materion Cyfreithiol, Azima Shakoor.

Daw hyn yn sgil canfyddiad $1m (£775,000) yng nghyfrif banc y cyn-Arlywydd. Ymddangosodd yr arian wedi iddo daro dêl i rentu casgliad o ynysoedd i ddatblygwyr.

Ar ôl pum mlynedd wrth y llyw, mi gollodd Yameen Abdul Gayoom etholiad arlywyddol y llynedd.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, cafodd ei gyhuddo o fod yn llwgr ac o sathru ar hawliau ei bobol.