Mae’r chwilio am Emiliano Sala, pêl-droediwr Caerdydd, wedi dechrau oddi ar ynysoedd y Sianel.
Y gwyddonydd morwrol David Mearns sy’n arwain y chwilio preifat ar ran teulu’r Archentwr a aeth ar goll gyda’i beilot David Ibbotson wrth iddyn nhw deithio mewn awyren o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd.
Roedd Emiliano Sala newydd ymuno â Chaerdydd pan aeth e ar goll ar Ionawr 21, ond fe ddaeth y chwilio swyddogol i ben rai diwrnodau wedyn.
Yn ymuno â’r criw fydd ymchwilwyr o’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB), syn anfon llong i Ynys Guernsey.
Bydd gan David Mearns griw o saith o bobol i’w gynorthwyo wrth iddyn nhw chwilio pedair milltir sgwâr o’r Sianel.
Mae dwy sedd o’r awyren eisoes wedi cael eu darganfod.