Mae’r dynion sydd â’r cyrff mwyaf yng ngwledydd Prydain i’w canfod yn Abertawe, yn ôl ymchwil newydd.
Y cwmni Suit Direct sydd wedi bod yn casglu mesuriadau dynion dros y tair blynedd diwethaf, ac mae eu gwybodaeth yn dangos bod ail ddinas fwyaf poblog Cymru ar frig y rhestr o ran maint eu bola perfedd (waist).
Yn ôl ymchwilwyr, maint y bol ar gyfartaledd yn Abertawe yw 38.5 modfedd, o gymharu â 37.1 modfedd yng Nghaerdydd.
Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos bod Caerdydd yn ail ar y rhestr o ran dynion sydd â choesau byrion, gyda 27% ohonyn nhw’n fyrrach na’r cyfartaledd.
Pan ddaw at ddewis math o siwt wedyn, mae’r Cymry yn dueddol o fynd am siwt lwyd, tra bo 39% yn ffafrio esgidiau brown hefyd.