Mae apêl am arian i ail-gychwyn chwilio am y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi codi dros £150,000.
Roedd y chwaraewr o’r Ariannin a oedd newydd arwyddo gyda Dinas Caerdydd wedi diflannu wrth hedfan mewn awyren fach o Nantes i Gaerdydd nos Lun.
Daeth y chwilio swyddogol amdano ef a’r peilot i ben ddydd Iau.
Ymysg y rhai sydd wedi cefnogni apêl ei deulu am ail-gychwyn chwilio mae’r cewri pêl-droed Lionel Messi, Diego Maradona a Sergio Aguero.
Mae arlywydd yr Ariannin, Mauricio Macri, hefyd wedi gwneud cais swyddogol i Brydain a Ffrainc ail-gychwyn chwilio.
Mae galwad debyg wedi ei gwneud gan brif weithredwr clwb Dinas Caerdydd, Ken Choo, ac mae deiseb change.org wedi casglu dros 80,000 o lofnodion i gefnogi’r cais.
Ymchwiliad
Mae’r AAIB, y corff swyddogol sy’n ymchwilio i ddamweiniau awyr, wedi agor ymchwiliad ar ôl i’r awyren fach ddiflannu.
Roedd yr awyren Piper PA-46 Malibu, gydag Emiliano Sala a’r peilot David Ibbotson ar ei bwrdd, wedi gadael Nantes am 7.15 nos Lun, ond roedd wedi colli cysylltiad â rheolwyr traffig Jersey wrth hedfan dros y Sianel.
Yr asiant pêl-droed, Willie McKay, oedd wedi trefnu’r daith i ddod ag Emiliano Sala i Gaerdydd, er nad oedd ganddo unrhyw ran mewn dewis yr awyren na’r peilot.
Mae yntau hefyd wedi cefnogi’r alwad i barhau’r chwilio amdano.
Roedd Dinas Caerdydd wedi ei arwyddo am £15 miliwn – y tâl uchaf erioed gan y clwb – ac roedd i fod i gychwyn ymarfer yr wythnos nesaf.
Mae staff a chefnogwyr Caerdydd yn cael eu hannog i wisgo cenhinau pedr melyn yn y gêm yn erbyn Arsenal nos Fawrth.