Mae Ynysoedd Orkney i’r gogledd o’r Alban wedi cael eu henwi fel y lle gorau i fyw ynddo ym Mhrydain mewn arolwg blynyddol o ansawdd bywyd.

Sir Fynwy oedd yr unig le yng Nghymru i gyrraedd y 50 uchaf – ar y 48ain safle.

Roedd yr arolwg gan fanc Halifax yn astudio amrywiaeth o ddata ar y farchnad lafur, y farchnad dai, yr amgylchedd, addysg, iechyd, llesiant personol a hamdden er mwyn gosod yr ardaloedd mewn trefn.

Dywed Halifax fod lefelau uchel o gyflogaeth, cyfraddau isel o droseddu, canlyniadau arholiadau da, a sgoriau uchel am iechyd a hapusrwydd wedi rhoi’r ynysoedd ar y brig.

Maen nhw hefyd yn lle cymharol fforddiadwy i fyw, gyda phrisiau tai yn 5.2 gwaith yr incwm cyfartalog, o gymharu â ffigur cyfatebol o 7.3 drwy Brydain yn gyffredinol.

Gyda’u golygfeydd hardd, trysorau archaeolegol a chyfoeth o fywyd gwyllt, mae’r ynysoedd yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr.