Ni fydd y Gymraeg yn cael ei rhannu’n iaith gyntaf ac ail iaith o dan y cwricwlwm newydd mewn ymgais i drawsnewid y ffordd mae ieithoedd yn cael eu dysgu yn ysgolion Cymru.

Bydd yr iaith yn parhau i fod yn orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed, ochr yn ochr â Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol.

Yn y cwricwlwm newydd, bydd Ieithoedd Tramor Modern yn cael eu cynnwys yn rhan o Ieithoedd Rhyngwladol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys ieithoedd cymunedol, clasurol ac Iaith Arwyddion Prydain.

Yr ysgolion fydd yn dewis pa ieithoedd maen nhw am i’w disgyblion eu dysgu yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

Er mwyn cyflawni hyn bydd y Llywodraeth yn ysgogi ysgolion i ystyried cyfleoedd i ddysgwyr wrando, darllen, siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg – a hynny drwy wahanol rannau o’r cwricwlwm neu y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Mae hyfforddiant Cymraeg dwys ar gyfer athrawon a chynorthwywyr dysgu bellach yn cael ei gynllunio i sicrhau y gallant gyflwyno’r newidiadau sy’n dod i waith yn 2022.

 “Dinasyddion Cymru a’r byd”

Ers cyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 1988, hwn yw’r “newid mwyaf dramatig” yn y ffordd mae ieithoedd yn cael eu dysgu mewn ysgolion yng Nghymru meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Rydym am sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn ddinasyddion Cymru a’r byd  ac mae hynny’n golygu sicrhau bod pob person ifanc o bob cefndir yn cael cyfle i feithrin ei sgiliau iaith.”

Bydd swm o £24 miliwn yn cael ei neilltuo ar ben yr hyn sydd yn cael ei wario ar gefnogi’r cwricwlwm yn barod.

“Rydym yn ymrwymedig i roi’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i addasu,” ychwanegodd Kirsty Williams.

 Cael gwared ar y term ‘Cymraeg ail-iaith’

Daw’r newid yn dilyn argymhellion gan yr Athro Sioned Davies, awdur yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i’r Gymraeg fel rhan o’r cwricwlwm.

“Mae sicrhau bod y Gymraeg yn bwnc statudol i bawb, ac ein bod yn cael gwared ar y term ‘Cymraeg ail iaith’ yn hollbwysig os ydym am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr,” meddai’r Athro Sioned Davies.

“Mae’n gyfnod cyffrous a heriol. Mae angen sicrhau amser a chefnogaeth i’r system gyfan ddatblygu er mwyn creu’r amgylchiadau gorau i’r cwricwlwm newydd ffynnu.”

Cymdeithas yr Iaith yn croesawu, ond..

“Rydyn ni’n croesawu bwriad y Llywodraeth i sefydlu un continwwm o ddysgu’r Gymraeg,” meddai Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl ar gael nawr i gyd-fynd â’r datblygiad hwn.”

“Fel arall, mae peryg na welwn ni newid gwirioneddol ar lawr gwlad. Wedi’r cwbl, sut allan nhw roi’r gorau i addysgu’r Gymraeg fel ail iaith nawr ond eto parhau â’r cymhwyster Cymraeg ail iaith tan 2027? “