Roedd dau Gymro ymhlith yr actorion a gafodd lwyddiant mewn seremoni wobrwyo y Critics’ Choice yn Santa Monica dros nos.
Mae’r gwobrau yn anrhydeddu ffilmiau a rhaglenni teledu gorau’r flwyddyn.
Yr actor o Hwlffordd, Christian Bale, oedd un o brif enillwyr y noson, wedi iddo gipio gwobrau am yr actor gorau a’r actor gorau mewn comedi am ei ran yn portreadu cyn-Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Dick Cheney, yn Vice.
Cymro arall a gafodd ei wobrwyo oedd Matthew Rhys, a dderbyniodd wobr yr actor gorau mewn cyfres ddrama. Mae’r actor o Gaerdydd yn chwarae rhan ysbïwr yn The Americans, rôl a sicrhaodd wobr Emmy iddo rai misoedd yn ôl.
Gwobrau eraill
Ymhlith actorion eraill o wledydd Prydain a gafodd noson i’w chofio oedd Olivia Colman, a enillodd wobr yr actores orau mewn comedi am ei rhan yn portreadu’r Frenhines Anne yn The Favourite.
Ond methodd â chipio gwobr fawr yr actores orau, a aeth i Glenn Close (The Wife) a Lady Gaga (A Star is Born).
Yn y cyfamser, cafodd Claire Foy ei hanrhydeddu â’r wobr ‘See Her’ am ei chyfraniad i ferched mewn ffilm.
Roedd yr actores o Stockport ger Manceinion hefyd wedi’i henwebu ar gyfer gwobr yr actores gynorthwyol orau am ei rhan yn y ffilm, First Man, ond fe aeth y wobr honno i Regina King (If Beale Street Could Talk).
Thandie Newton (Westworld) a dderbyniodd wobr yr actores gynorthwyol orau mewn drama, tra bo Ben Whishaw (A Very English Scandal) wedi cipio gwobr yr actor cynorthwyol gorau mewn cyfres neu ffilm a gafodd ei chreu ar gyfer y teledu.
Cafodd drama’r BBC, Killing Eve, ei chydnabod hefyd, gyda Sandra Oh yn derbyn gwobr yr actores orau mewn cyfres ddrama.