Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ol i ddyn gael ei ladd yn Sir Gaerfyrddin bore ddoe ar ol i deiar ffrwydro.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i efail Thomas Rees a’i Fab, Pumsaint, yn dilyn y ffrwydriad.

Mae’n debyg bod y dyn yn gweithio ar y pryd yn Yr Efail – sy’n fusnes weldio teuluol yng nghanol pentref Pumsaint.

Mae Golwg 360 ar ddeall bod y dyn yn ei 30au ac newydd ddod yn dad. Dyw’r heddlu heb gyhoeddi ei enw hyd yn hyn.

‘Ffrwydrad mawr’

Yn ôl tystion, clywyd “ffrwydrad mawr”  tua 9.30am bore ddoe.

Cadarnhaodd gwasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod dau griw tân o Lambed a Llanymddyfri wedi cael eu hanfon i’r safle bore ddoe.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi cael eu galw i’r digwyddiad “yn dilyn ffrwydrad teiar, a ddigwyddodd tra roedd dyn yn gweithio â pheiriannau.

“Fe fuon ni’n trafod â pharafeddygon cyn i’r dyn cael ei gymryd i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr.”

Mae Heddlu Dyfed Powys bellach wedi cadarnhau bod y dyn wedi marw o’i anafiadau yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw’n gweithio “ar y cyd â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, gan fod y digwyddiad yn gysylltiedig â’r gweithle.

“Doedd neb arall ynghlwm wrth y digwyddiad, a dyw’r safle ddim yn beryglus i aelodau eraill o’r cyhoedd.

“Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod, ac mae swyddogion yr heddlu wedi cael eu hanfon atyn nhw i roi cefnogaeth.

“Mae’r Crwner wedi cael gwybod, ac mae ymchwil ar waith i’r digwyddiad trasig.”