Bydd Bangor yn elwa o’r tywydd braf y penwythnos hwn, yn ôl cwmni Travelodge, sy’n dweud fod y dref yng ngogledd Cymru yn un o’r llefydd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain gyda’r rhai sy’n chwilio am wyliau.

Daw’r newyddion wrth i Gymru baratoi am un o benwythnosau poethaf mis Medi ers blynyddoedd, gyda’r tymheredd 10ºC yn uwch na’r arfer am yr adeg yma o’r mis.

Ac mae’r ha’ bach mihangel yn mynd i fod yn newyddion da i dwristiaid a busnesau fel ei gilydd, yn ôl Charlie Herbert o’r Travelodge.

“Mae’r holl ddisgwyl am dywydd poeth yr wythnos hon wedi bod yn ffantastig i fusnesau,” meddai, “mae ein gwestai ar hyd yr arfordir yn llawn.”

Ymhlith y deg lle sy’n denu’r ymholiadau mwyaf y penwythnos hwn y mae Bangor, sef y lle mwyaf poblogaidd yng Nghymru gyfan i’r cwmni, a threfi glan-môr traddodiadol Blackpool, Bournemouth, Brighton, Scarborough, Torquay, Morcambe, Yarmouth Uchaf, Eastbourne a Berwick upon Tweed.

Twrio am rawiau…

Tra bydd llawer yn twrio am eu rhawiau tywod y penwythnos hwn, fe fydd rhai eraill yn paratoi eu rhawiau eira.

Mae dau gyngor wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhwwrthi’n gwneud trefniadau i ymateb i dywydd garw eleni.

Yn Plymouth, fe fydd loriau graean yn barod i’w galw allan o ddydd Sadwrn ymlaen – er gwaetha’r rhagolygon braf.

Yn ôl Cyngor Sir Plymouth, maen nhw eisiau bod yn barod am y tywydd oer eleni, ar ôl y ddau aeaf caled diwethaf. Bydd saith lori raean ar alw parhaol ganddyn nhw am y chwe mis nesaf, er mwyn sicrhau bod y ffyrdd yn cael eu cadw’n agored.

Ac mae Cyngor Sutton hefyd eisiau paratoi pobol rhag ofn y daw’r tywydd gwael, wrth gyhoeddi y bydd 10kg o raean am ddim i bob cartref yn Sutton y gaeaf hwn, er mwyn ei ddefnyddio ar y llwybrau, y pafin, a’r ffyrdd o flaen eu tai.

Dywedodd y cynghorydd Simon Wales o Gyngor Sutton “ei bod hi, efallai, yn ymddangos yn weddol rhyfedd ein bod ni’n paratoi i ddosbarthu graean, yn enwedig pan y’n ni’n mwynhau ha’ bach mihangel fel hyn, ond mae’n rhaid i ni fod yn barod.

“Daeth yr eira ym mis Tachwedd y llynedd,” meddai, “felly ry’n ni eisiau gwneud yn siwr ein bod ni mor barod a phosib eleni, fel ein bod ni’n gallu cadw i symud pan fydd y gaeaf yn cyrraedd.”