Mae un o Arglwyddi Lloegr wedi cyhuddo Theresa May o fod yn gyfrifol am “bolisi systematig” yn erbyn Cymru.
Daw sylwadau’r Arglwydd Andrew Adonis yn dilyn awgrym ddoe (dydd Gwener, Ionawr 11) y bydd cwmni Hitachi yn penderfynu’r wythnos nesaf na fyddan nhw’n bwrw ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer Wylfa B.
Mae Llywodraeth Prydain yn mynnu bod y trafodaethau’n parhau, er na chafodd y prosiect ei drafod yn ystod cyfarfod Theresa May â Shinzo Abe, prif weinidog Japan yr wythnos ddiwethaf.
‘Dinistrio swyddi’
“Mae Mrs May bellach wedi canslo’r prosiect ynni niwcelar yn ynys Môn, y morlyn llanw yn Abertawe (byddai’r nesaf wedi bod yng Nghaerdydd) a thrydaneiddio’r rheilffordd i’r gorllewin o Gaerdydd,” meddai’r Arglwydd Adonis ar ei dudalen Twitter.
“Mae polisi systematig yn dinistrio swyddi ac isadeiledd Cymreig ac economi Cymru er mwyn talu am Brexit.”