Mae ymgeisydd aflwyddiannus yn ras arlywyddol y Congo yn herio’r canlyniad.

Mae gan y llys cyfansoddiadol saith niwrnod i ystyried yr honiadau bod Felix Tshisekedi, arweinydd yr wrthblaid, a’r Arlywydd Joseph Kabila wedi dod i gytundeb ynghylch y canlyniad.

Mae’n honni ei fod e wedi ennill 61% o’r 40,000 o bleidleisiau.

Ond mae’r comisiwn etholiadol yn dweud iddo ennill 34% o’r bleidlais yn unig, a bod Felix Tshisekedi wedi ennill 38% o’r bleidlais.