Mae Christian Bale, a gafodd ei eni yn Hwlffordd, wedi’i enwebu am wobr BAFTA yng nghategori’r actor gorau, a hynny am ei ran yn y ffilm Vice.

Bydd yn cystadlu yn erbyn Bradley Cooper (A Star Is Born), Rami Malek (Bohemian Rhapsody), Steve Coogan (Stan and Ollie) a Viggo Mortensen (Green Book).

Mae Olivia Coleman (The Favourite), Glenn Close (The Wife), Lady Gaga (A Star Is Born), Melissa McCarthy (Can You Ever Forgive Me?) a Viola Davis (Widows) wedi’u henwebu yng nghategori’r merched.

Y rhai sydd wedi’u henwebu ar gyfer gwobr yr actor cynorthwyol gorau yw Adam Driver (BlacKkKlansman), Mahershala Ali (Green Book), Richard E Grant (Can You Ever Forgive Me?), Sam Rockwell (Vice) a Timothee Chalamet (Beautiful Boy).

Y merched sydd wedi’u henwebu ar gyfer y wobr gyfatebol yw Amy Adams (Vice), Claire Foy (First Man), Emma Stone (The Favourite), Rachel Weisz (The Favourite) a Margot Robbie (Queen of Scots).

Y ffilmiau sydd wedi’u henwebu ar gyfer y ffilm Brydeinig orau yw Beast, Bohemian Rhapsody, The Favourite, McQueen, Stan and Ollie a You Were Never Really Here.

Y rhai sydd wedi’u henwebu ar gyfer y ffilm orau yw BlacKkKlansman, The Favourite, Green Book, Roma ac A Star Is Born.

Mae gan The Favourite 12 o enwebiadau, ac mae saith enwebiad yr un i First Man, Roma, A Star Is Born a Bohemian Rhapsody.