Un o bosteri'r ymgyrchwyr (o'u gwefan)
Fe fydd grŵp protest yn gwrthdystio y tu allan i gyfarfod o bwyllgor cynllunio Cyngor Bro Morgannwg heno yn erbyn cais i chwilio am nwy yn yr ardal.
Y prif nod yw darganfod a oes yna bosibilrwydd i sefydlu diwydiant ffracio – y broses ddadleuol sy’n chwalu creigiau er mwyn rhyddhau’r nwy siâl sydd ynddyn nhw.
Yn ôl y grŵp protest, The Vale Says No, fe fyddai caniatáu cloddio am nwy yn ardal Llandŵ yn “gatastroffig” ac mae protestiadau yn erbyn ffracio mewn ardaloedd yn Lloegr hefyd ac ar draws y byd.
Mae’r broses yn golygu chwistrellu dŵr ar bwysau mawr i mewn i greigiau er mwyn agor sianeli newydd i ryddhau’r nwy.
Ddoe fe alwodd yr Aelod Cynulliad rhanbarthol, Eluned Parrot, ar i’r Llywodraeth alw’r cais i mewn a’i dynnu o ddwylo’r awdurdod lleol ac, yn ôl stori yng nghylchgrawn Golwg, fe fydd yr ymgyrchwyr yn apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i ganiatau’r tyllu arbrofol.
Mae un ymgyrchwraig, Louise Evans, wedi dweud wrth y cylchgrawn y byddai rhai o’r grŵp yn fodlon torri’r gyfraith i atal y ffracio.
Y cais
Cwmni o Benybont o’r enw Coastal Oil and Gas sydd wedi gwneud y cais – maen nhw’n cydweithio gyda chwmni o Awstralia o’r enw Eden Energy (UK).
Heno, fe fydd Cyngor y Fro’n ystyried cais i wneud profion mewn safle ar Barc Busnes Llandŵ. Mae’r cwmni eisiau drilio un twll i chwilio am nwy siâl a nwy confensiynol hefyd.
Yn ôl y protestwyr, fe fydd hynny’n golygu saith wythnos o sŵn bob awr o’r dydd ac fe fydd hynny’n amharu ar drigolion lleol a busnesau. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i’r gwrthwynebiad fod i’r cais am dyllu arbrofol, yn hytrach na’r ffracio ei hun.
Roedd cais yn gynharach eleni wedi ei dynnu’n ôl pan sylweddolodd y cwmni fod tŷ annedd ar y Parc Busnes ond maen nhw’n dweud mai ychydig iawn o effaith fydd yna ac y bydd y safle’n cael ei adfer i’w gyflwr gwreiddiol.
Does gan Asiantaeth yr Amgylchedd ddim gwrthwynebiad i’r cais, ar yr amod bod trefniadau’n cael eu gwneud i fynd â dŵr budr o’r safle.
Rhagor am y stori yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg.