Castell Aberteifi
Cyhoeddwyd heddiw y bydd cynllun gwerth £10m i adfer Castell Aberteifi yn mynd rhagddo, gan greu 19 o swyddi, ar ôl i Lywodraeth Cymru neilltuo arian ar ei gyfer.

Mae £4.3m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a thros £460,000 gan Lywodraeth Cymru trwy Cadw, wedi ei gwneud yn bosibl i roi ar waith gynlluniau Ymddiriedolaeth Cadwgan ar gyfer adfer yr heneb hanesyddol hon. Mae’r arian hwn yn ychwanegol at yr arian a gafwyd yn gynharach eleni o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Bydd y buddsoddiad yn talu am wneud gwaith cadwraeth ar waliau’r Castell ac adfer yr adeiladau a gerddi ar y safle a oedd unwaith yn gadarnle i’r Arglwydd Rhys a Thywysogion y Deheubarth. Dyma hefyd y man lle cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf.

Fel rhan o’r prosiect, bydd y safle’n cael ei ddatblygu ar gyfer cynnal gwahanol weithgareddau cymunedol a hamdden. Hefyd cynhelir gwersi Cymraeg a chyrsiau mewn diwylliant, crefftau, yr amgylchedd a garddwriaeth. Bydd y prosiect yn creu 19 o swyddi i gynnal y gwasanaethau ychwanegol.

Wrth ymweld â’r castell, dywedodd Huw Lewis: “Mae ein treftadaeth a’n diwylliant yn unigryw. Trwy warchod yr amgylchedd cyfoethog a hanesyddol hwn, byddwn yn creu atyniad a fydd yn denu mwy o ymwelwyr, yn rhoi hwb i dwristiaeth ac yn creu cyfleoedd i’r gymuned leol. Bydd hyn i gyd yn dod â manteision economaidd ehangach i Aberteifi ac ardal De Ceredigion.”

Dywedodd y Gweinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies: “Dw i’n falch ein bod yn gallu manteisio ar ein hadnoddau Ewropeaidd i greu safle a fydd yn denu ymwelwyr i weithgareddau diwylliannol a chyrsiau. Bydd hefyd yn helpu i wella sgiliau ac i greu swyddi, gan ddod â rhagor o gyfleoedd economaidd a chymdeithasol i’r ardal.”

O dan y prosiect hwn, bydd hyfforddiant mewn sgiliau treftadaeth a gwarchod yn cael eu cynnig ar y cyd â Choleg Ceredigion, Hyfforddiant Ceredigion, Canolfan Tywi a darparwyr hyfforddiant eraill. Bydd yr adeiladau ar gael i’w defnyddio gan y gymuned leol a bydd pobl leol hefyd yn gallu gwirfoddoli i gymryd rhan yn y gwaith o redeg y safle.

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, Jann Tucker:  ” Ar ôl inni gael y grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae’r cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis AC yn golygu ein bod bellach mewn sefyllfa i weld ein gobeithion a’n gweledigaeth i adfer Castell Aberteifi yn cael eu gwireddu. Dyma brosiect y bu cymaint o bobl yn gweithio’n galed arno ers blynyddoedd lawer.
“Mae’r arian a gafwyd oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ynghyd â’r arian oddi wrth Cadw, yn enghraifft wych o’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar dreftadaeth wrth fynd ati i adfer safleoedd. Bydd y prosiect hwn yn gweddnewid un o’n henebion diwylliannol mwyaf eiconig a hefyd ragolygon economaidd cymuned gyfan a’r ardal o’i hamgylch. Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi cael y fath gyfle.”

Hefyd, mae’r prosiect wedi cael arian oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberteifi, a chafwyd cymorth ac arweiniad gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Tywysog.