Mae adeilad wedi cael ei ddinistrio yn dilyn tân ar ystad ddiwydiannol yn ardal Cwmafan yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ystad ddiwydiannol Brunel am oddeutu 12 o’r gloch neithiwr (Ionawr 6).

Fe gymerodd hyd at bump awr i ddiffodd y tân, ac roedd yr heddlu wedi rhybuddio pobol i gadw draw dros nos wrth i 37 o gartrefi golli trydan rhwng 1.05yb a 7.20yb.