Bydd casgliad o asiantaethau yn cyfarfod yn ddiweddarach i drafod y ddamwain olew a ollyngwyd yn Aberdaugleddau.

Datgelodd cwmni olew Valero bore ddoe (Ionawr 3), bod “cynnyrch petroliwm” wedi gollwng i ddŵr y porthladd nos Fercher (Ionawr 2) yn dilyn gwaith  ar bibellau.

Ac erbyn hyn mae rhwystrau sy’n arnofio ar wyneb y dŵr – neu booms – wedi cael eu gosod o amgylch yr olew er mwyn ei atal rhag lledaenu ymhellach.

Yn ôl Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, mae ‘awyren rheoli llygredd’ wedi bod yn cynnal arolwg yn ystod y dydd, a bellach mae Valero wedi ymddiheuro am y gollyngiad.

Rhybudd

Mae Mike Ryan, Harbwrfeistr Porthladd Aberdaugleddau yn dweud bod y gollyngiad olew dan reolaeth ac wedi’i “atal rhag lledaenu.”

Er hynny, Mae disgwyl i rywfaint o’r olew gyrraedd y lan dros y dyddiau nesaf, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus.