Cafodd y rhaglen ei beirniadu gan ddwsinau o bobl oedd yn honni fod y sylwadau gwrth-Gymreig yn “nonsens”.
Dywedodd un, William Jones, ar ei gyfrif Trydar: “Fe gerddais i mewn i dafarn ym Mharis yr wythnos cyn y Nadolig . . . pwy ‘fasa’n meddwl, Ffrancwyr yn siarad Ffrangeg yn Ffrainc.”
Fe ymatebodd Vine gan ofyn: “Ydi Ffrainc yn y Deyrnas Gyfunol”.
Wrth amddiffyn ei hun, dywed Jeremy Vine nad oedd e’n cymeradwyo’r stori am bobol yn troi i siarad Cymraeg mewn tafarn – honiadau sy’n cael eu gwneud yn aml gan bobol ddi-Gymraeg.
Yn ei ymateb i Ms Gwenllian dywedodd Mr Vine: “Am nad yw’n glir o’r sgwrs hon, Sian, ga i dynnu sylw at y ffaith na wnes i adrodd y stori wreiddiol am siaradwyr Cymraeg yn y dafarn, nac wedi ei chymeradwyo.
“Dim ond cwestiynu roeddwn i a oedd y gymhariaeth â Paris/Ffrainc o gymorth.
“Wnes i ddim dewis fy ngeiriau’n dda iawn, mae’n amlwg.”
Mae Mr Vine hefyd wedi diolch i’r ymgyrchydd iaith Gymraeg Aran Jones am ei gefnogaeth iddo. Mewn erthygl ar Say Something in Welsh, dywed Mr Jones fod Mr Vine wedi dangos diddordeb mewn dysgu Cymraeg. Apeliodd Mr Jones hefyd i Gymry beidio bod mor ymosodol ond yn hytrach feithrin cariad pobl eraill at ein hiaith.
Dywed Mr Jones: “Hwyrach os fydde ni yn treulio mwy o amser yn lledaenu’r cariad a gwneud ffrindiau, yn gwahodd pobl i fewn i’n hiaith a’n diwylliant cyfareddol ac unigryw – hwyrach fe fyddai gennym ni lai o ymosodiadau i ddelio a nhw.
“Felly, hwyrach y dyla ni stopio gwaeddi arno fo.”